Cefnogi Saith Seren Wrecsam/Support Saith Seren Wrexham

I want to do more to support local causes this year, so I’ve decided to do the Llandudno Sea Triathlon on Sunday 5th July 2015 to raise money for Saith Seren in Wrecsam.

Dwi am wneud mwy i gefnogi achosion lleol eleni, felly dwi wedi penderfynu gwneud Triathlon Môr Llandudno ddydd Sul, Gorffennaf 5ed 2015, i godi arian i Saith Seren yn Wrecsam.

Over the years Saith Seren has become a real cultural hub in Wrecsam: already these past few months I’ve experienced the beautiful sounds of Kizzy Crawford and The Gentle Good; at Focus Wales Festival our crowd nearly bounced out the door as Mr Phormula and Dybl L tore the roof off with their infectious hip-hop Cymraeg.

Dros y blynyddoedd mae Saith Seren wedi dod yn ganolbwynt diwylliannol go iawn yn Wrecsam: dros y misoedd diwethaf dwi wedi mwynhau synau hardd Kizzy Crawford a The Gentle Good; yng Ngŵyl Focus Wales gwnaeth y dorf bron â bownsio allan o’r drws gan fod Mr Phormula a Dybl L yn ysgubol efo’u hip-hop Cymraeg.

Saith Seren cheering the rugby
Saith Seren cheering the rugby

Spectrum gigs are hugely successful, bringing ‘a host of bands, acts and artists to the local area’ which has been a great help to this, and other venues in these tough times. Wrecsam Carnival of Words had renown bilingual poet Ifor ap Glyn sharing the stage with Peter Read and other local poets. Readings, meetings and performances are regular calendar fixtures including stortelling, literature and book clubs, and the well loved sgwrs a pint sessions are always busy. There’s also a tonne of Cymraeg classes to choose from, and of course it’s a bar, so if you just want to go out for a pint and chat in English or Cymraeg or Polish or Portuguese you’d find yourself made welcome.

Mae gigs Sbectrwm wedi bod yn hynod lwyddiannus, gan ddod â llu o fandiau, gweithredoedd ac artistiaid i’r ardal sydd wedi bod o gymorth mawr i Saith Seren a lleoliadau eraill yn ystod cyfnod anodd. Yn ystod Gwyl Geiriau Wrecsam, roedd y bardd dwyieithog o fri Ifor ap Glyn yn rhannu’r llwyfan gyda Peter Read a beirdd lleol eraill. Mae darlleniadau, cyfarfodydd a pherfformiadau cyson gan gynnwys adrodd straeon, llenyddiaeth a chlybiau llyfrau, ac mae’r sgwrsio anffurfiol dros beint bob amser yn brysur. Mae hefyd tunnell o ddosbarthiadau Cymraeg ac wrth gwrs mae’n bar, felly os ydych am fynd allan am beint a sgwrs yn Saesneg neu Cymraeg neu Pwyleg neu Portiwgaleg byddwch yn cael croeso mawr.

So we were all gutted to hear that the venue was closing due to lack of funding. Most of the staff are volunteers and all of the event programming is arranged by the volunteer committee. Say Something In Welsh soon leapt in with a gutsy campaign that raised enough money to keep the venue going day-to-day but the venue still needs all and any community help it can get. Which is why I’m doing this race.

Felly roeddem i gyd yn drist iawn o glywed bod y Saith Seren am cau oherwydd diffyg arian. Mae’r rhan fwyaf o’r staff yn wirfoddolwyr a phob un o’r digwyddiadau yn cael eu trefnu gan y pwyllgor gwirfoddol. Aeth Say Something in Welsh ati gydag ymgyrch ddewr a gododd ddigon o arian i gadw’r ganolfan ar agor ond mae dal angen cymorth i’r ganolfan. Dyna pam fy mod yn gwneud y ras hon.

The triathlon is a 750m swim across the seafront at Llandudno followed by a 19k bike ride around the Great Orm then a 5k run along the seafront. I’m not using any of the funds raised to pay my £60 entry fee. All money will go directly to Saith Seren (minus anything PayPal takes off me for admin).

Mae’r triathlon yn cynnwys nofio 750m ar draws lan y môr yn Llandudno ac yna reid 19k ar gefn beic o gwmpas Pen y Gogarth cyn rhedeg 5k ar lan y môr. Dydw i ddim yn defnyddio dim o’r arian a godir i dalu fy ffi mynediad o £60. Bydd yr holl arian yn mynd yn uniongyrchol at Saith Seren (minws unrhyw beth mae PayPal yn codi ar gyfer admin).

So if you could help raise money for this amazing venue to keep supporting original live music and poetry in Wrecsam in any language, I’d be very grateful. You can click on this donate button below and choose how much support you can afford (the fundraising websites wanted a minimum of £250 and I don’t expect to raise that much so this is linked to my PayPal account and I’ll give all the funds straight to Saith Seren after the race). You can also make donations over the bar at Saith Seren – just tell them it’s for the triathlon!

Felly, pe gallech helpu i godi arian ar gyfer y ganolfan anhygoel yma er mwyn cefnogi cerddoriaeth fyw wreiddiol a barddoniaeth yn Wrecsam mewn unrhyw iaith, byddwn yn ddiolchgar iawn. Gallwch glicio ar y botwm isod er mwyn cyfrannu a dewis faint o gymorth y gallwch ei fforddio (mae’r gwefannau codi arian am gael isafswm o £250 a dydw i ddim yn disgwyl codi llawer felly mae hyn yn gysylltiedig â fy nghyfrif PayPal a byddaf yn rhoi pob ceiniog yn syth i Saith Seren ar ôl y ras). Gallwch hefyd gyfrannu dros y bar yn Saith Seren – rhowch wybod fod o ar gyfer y triathlon!
Donate Button with Credit Cards

Diolch yn fawr iawn am darllen,

Sophie

**Huge thanks to Marc Jones from Saith Seren for the Cymraeg translations**
**Diolch o galon i Marc Jones o Saith Seren am y cyfieithiadau Cymraeg**
(I’ve translated this bit so sori for any mistakes!)